Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Prentitisiaid ACGCC - Stori Dewi

Dewi Wyn Apprentice

Mae Dewi Hughes wedi ymuno âg ACGCC fel prentis Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol fel rhan o'r  tîm twnneli a thechnoleg. Dilynwch ei stori isod. 

Wnes i gais i fod yn brentis wrth fy mod o’r farn fod hyn yn gyfle anhygoel i mi weithio dan gyngor a dysgu, tra’n gweithio gyda cydweithwyr profiadol iawn, ac ar yr un pryd cael y cyfle i gwblhau astudiaeth gradd drost gyfnod o dair blynedd.

Mantais o ddechrau gyrfa fel prentis yw’r ffaith fy mod yn cael hyfforddiant a profiad uniongyrchol gyda pheiriannydd cywys. Hefyd, rydw i’n gallu ddatblygu fy addysg ym mhellach.

Fy swydd yn yr asiant yw prentis gradd Peirianneg Fecanyddol a Thrydannol fel rhan or tîm twneli.

Dysgu cyn gymaint ag allaf yn y swydd a gweithio’n galed i fod yn llwyddiannus mewn cwblhau fy nghradd gyda’r gobaith o gael swydd llawn amser.

Rwyf wedi dysgu llawer am sut mae’r rhwydwaith ffyrdd yn cael ei gynnal a rheoli, ac wedi derbyn fy mhrofiad gyntaf yn y byd gwaith

Rwyf yn derbyn cefnogaeth ac adborth gan fy nghydweithwyr pob diwrnod ac rwyf hefyd yn derbyn profaid a gwybodaeth helaeth yn y swydd 

Ar ôl cwblhau arholiadau TGAU es i ymlaen i Coleg Llandrillo Menai yn Llangefni i gwblhau cwrs Peirianneg Trydannol Lefel 3 dros gyfnod o ddwy flynedd.

Buaswn yn argymell yn gryf i rhywun gwblhau prentisiaeth oherwydd mae’n gyfle gwych i ddysgu a gweithio tra’n cwblhau gradd noddedig.