Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A470 - Blaenplwyf Uchaf i gylchfan Mallwyd

Diwrnod Cychwyn: 23/02/26 | Diwrnod Gorffen: 13/03/26

Gwaith atgyweirio hanfodol ar wyneb y ffordd gerbydau 

Bydd y gwaith yn cynnwys plaenio wyneb presennol y ffordd gerbydau, addasu gorchuddion tyllau archwilio a gratiau gyli, gosod cwrs wyneb asffalt newydd, adfer stydiau ffordd, a gosod wyneb ffrithiant uchel a marciau ffordd. Noder nad oes unrhyw waith dros y penwythnos wedi'i gynllunio ar gyfer y cynllun hwn.

I leihau tarfu ar y cyhoedd sy'n teithio, bydd y gwaith yn cael ei wneud yn y nos gan gau'r ffordd yn llwyr rhwng 19:00 a 06:00; bydd y ffordd yn gwbl agored y tu allan i'r oriau hyn. Mae cau fel hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch gweithredwyr a staff ar y safle, gan ganiatáu i waith adeiladu fynd rhagddo heb y risgiau sy'n gysylltiedig â thraffig byw.

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch yn ymwybodol y bydd y ffordd ynghau o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 19:00 a 06:00.

Cau'r ffordd yn llwyr gyda llwybr y gwyriad wedi ei arwyddo yn llawn.

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd llwybr y gwyriad wedi'i arwyddo i'r de orllewin ar hyd yr A470 i gylchfan Glantwymyn i'r A489 i Fachynlleth, ac wedyn i'r gogledd ar yr A487, ac yna ar yr A470 i gylchfan Mallwyd, ac i'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio o'r gogledd i'r de.

Rhoddwyd ystyriaeth lawn i effaith y gwaith ar ddefnyddwyr y ffordd, preswylwyr a'r gweithlu, e.e.  math o reolaeth traffig dros dro (cau ffyrdd yn llwyr gyda gwyriadau lleol, gwrthlif, cau lonydd ac ati, lle ar y ffordd, dyddiad y gwaith, amser y gwaith, gwaith arall, ac ati).

Cynghorir cerbydau gydag ochrau uchel sydd ddim yn gallu mynd o dan bont reilffordd Machynlleth (14'0"), sy'n ffurfio rhan o lwybr y gwyriad, neu bont reilffordd Pontdolgoch ar yr A470, i osgoi yr ardal yn ystod y cyfnodau cau neu ragweld oedi sylweddol.     

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG