Dyddiad Dechrau: 02/02/2026| Dyddiad Gorffen: 20/02/2026
Bydd gwaith hanfodol ar adran 6 km o gerbydffordd A470 tua’r gogledd rhwng Pontypridd ac Abercynon yn dechrau ar 02/02/2026 ac yn parhau am 16 noson.
Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni dros 16 noson, rhwng 20:00 – 06:00, a bydd angen cau'r gerbydffordd tua’r gogledd rhwng Pontypridd ac Abercynon.
Bydd y gwaith yn digwydd dros nos ym mis Chwefror pan fo llif y traffig yn hanesyddol yn llai, a hynny i leihau aflonyddwch.
04/02/26 Fe fydd y lôn yn parhau ar gau drwy'r dydd yn dilyn trafferthion gyda’r gwaith ffordd dros nos.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio yng nghyffordd Bridge Street tua’r gogledd, ar hyd y gylchfan A4054, ac yn dychwelyd i gerbydffordd A470 tua’r gogledd drwy gylchfan Abercynon.