Dyddiad Dechrau: 17/03/2026 - Dyddiad Cwblhau: 20/03/2026
Gwaith ail-wynebu hanfodol ar y ffordd gerbydau 16/03/26 – 20/03/26 rhwng 19:00 a 06:00 o'r gloch. Fodd bynnag, bydd y gwaith yn cael ei atal ar nos Sadwrn a nos Sul.
Bydd gwaith atgyweirio hanfodol i wyneb y ffordd gerbydau ar ran tua 360m o'r A487 Y Lolfa i Golden Key, Talybont, Ceredigion yn dechrau ar 16/03/26 tan 20/03/26, ac eithrio ar benwythnosau.
Nid yw'r ffordd yn ddigon llydan i wneud y gwaith yn ddiogel a hefyd cadw o leiaf un lôn o draffig ar gyfer cerbydau, felly mae angen cau'r ffordd yn llwyr dros nos.
Bydd y llwybr amgen i draffig sy'n teithio i gyfeiriad y gogledd o'r pwynt cau deheuol yn mynd ar hyd yr A487 i'r de at Bow Street, yr A4159 i'r de at Comins Coch, yr A44 i'r dwyrain i Langurig, yr A470 tua'r gogledd-ddwyrain i Gaersws, yr A470 tua'r gogledd-orllewin i Lantwymwyn ac yna ar yr A489 tua'r de-orllewin i Fachynlleth gan ail-ymuno â'r A487. I'r gwrthwyneb i draffig sy'n teithio tua'r de o bwynt gogleddol y ffordd sydd wedi cau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TrafficWalesN