Start date: 28/01/2026 | End date: 08/02/2026
Gwaith ail-wynebu hanfodol i’r ffordd gerbydau ar yr A5 yn Nhroadau Bonwm i'r dwyrain o Gorwen, i ddechrau ar 28 Ionawr tan 8 Chwefror.
Bydd y gwaith yn cynnwys gweithredu goleuadau traffig a system confoi, a disgwylir oedi o 20 munud. Mae'r rhaglen wedi ystyried agwedd breswyl/busnes yr ardal a bydd y gwaith yn digwydd rhwng 08:00 – 18:00. Bydd y gwaith yn digwydd dros gyfnod o bythefnos.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud ym mis Ionawr/Chwefror pan fo llif traffig yn hanesyddol is er mwyn lleihau aflonyddwch.
Bydd cerbydau dros 3.0m yn cael eu gwahardd rhag teithio drwy'r safle. Bydd gwyriad ar hyd yr A494/A5104/A542.
Bydd cerbydau dros 3.0m yn cael eu gwahardd rhag teithio drwy'r safle. Bydd gwyriad ar hyd yr A494/A5104/A542.
2 x goleuadau traffig dwy ffordd gyda chonfoi yn gweithio a phosibilrwydd o oedi o 20 munud. Bydd mesurau rheoli traffig yn gweithredu am 24 awr y dydd tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG/@TraffigCymruD