Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A55 C34 (Ewlo) a C35 (Dobshill) tua'r Dwyrain - Rhoi Wyneb Newydd ar y Ffordd Gerbydau Goncrit - Cwestiynau Cyffredin

Gwaith ailwynebu hanfodol rhwng Cyffordd 34 yr A55 (Ewloe) a Chyffordd 35 yr A55 (Dobshill), cyfeiriad y dwyrain yn unig. Bydd y gwaith a nodir yn cael ei gynnal rhwng dydd Sul, 22 Chwefror 2026 a dydd Sadwrn, 21 Mawrth 2026

Mae'r gwaith yn cynnwys:

  • tynnu'r wyneb y ffordd gerbydau sydd wedi dirywio,
  • atgyweirio ac/neu ailosod y slabiau concrit sydd o dan yr wyneb
  • rhoi wyneb newydd gyda chynnyrch arwynebu gwell
  • gosod gwaith haearn newydd
  • newid rhan o’r system rwystro ar y ffordd.

Mae angen gwneud y gwaith gan fod wyneb y ffordd gerbydau wedi cyrraedd diwedd ei oes pwrpasol. Unwaith y bydd y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau, ni fydd unrhyw uniadau ar draws yr wyneb newydd a fydd yn helpu i leihau sŵn ffordd cysylltiedig yn y rhan hon. Bydd y gwaith hefyd yn helpu i leihau yr angen posibl i gau'r ffordd heb rybudd er mwyn gwneud gwaith atgyweirio arwyneb brys ar y rhan hon o'r A55.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2026, fel hyn:

  • cau un lôn ar y ffordd gerbydau yn ystod yr wythnos (06:00 – 20:00),
  • cau'n gyfan gwbl dros nos yn ystod yr wythnos (20:00 – 06:00) a chau'n gyfan gwbl ar y penwythnos (dydd Gwener 20:00 i ddydd Llun – 6:00).
  • Ar y ffordd gerbydau tua'r Dwyrain yn unig. 

Er mwyn cyflawni'r rhaglen hon, bydd y contractwr yn gweithio mewn shifftiau fel bod modd gweithio 24 awr y dydd.

Rydym wedi bod mewn cyswllt agos â'r awdurdod lleol i sicrhau bod y llwybrau gwyriad mwyaf addas yn cael eu defnyddio ac er mwyn rheoli'r llwybrau'n effeithiol drwy gydol cyfnod y gwaith. 
 

Er mwyn cwblhau'r gwaith hwn mewn cyfnod mor fyr, bydd gwaith yn digwydd dros nos a fydd yn golygu rhai lefelau sŵn uwch na'r arfer.

Mae angen tywydd sych i wneud rhai rhannau o’r gwaith, yn ogystal â deunyddiau na ellir eu gosod os yw'r amodau o dan dymheredd penodol. Rydym wedi ystyried amseriad y prosiect hwn yn ofalus, a chredwn ein bod wedi dewis y cyfaddawd gorau posib rhwng llif traffig a gofynion tywydd/tymheredd. Bydd diweddariadau ar y gwaith yn cael eu cyhoeddi ar wefan Traffig Cymru (www.traffig.cymru) ac ar Twitter @TraffigCymruG. Bydd y sianeli hyn hefyd yn cynghori defnyddwyr y ffordd am dagfeydd ac amseroedd teithio disgwyliedig.