Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Anogir defnyddwyr y ffordd i gymryd gofal wrth basio ardaloedd gwaith ffordd

Traffic Officers on the network

Rydym, ynghyd a'r Asiantau Cefnffyrdd Cymru, yn codi'r larwm dros gynnydd pryderus mewn gyrwyr yn mynd mewn i ardaloedd gwaith ffordd ac achosion o gam-drin ar y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru. Yn 2023, cofnodwyd 74 achos o yrwyr yn anwybyddu ffiniau ardaloedd gwaith ffordd ac yn cam-drin gweithwyr. Mae’n bosib y gallai'r ffigurau gwirioneddol fod yn sylweddol uwch na'r hyn a nodwyd.

Mae'r duedd bryderus hon nid yn unig yn peryglu diogelwch gweithwyr ffordd ond mae hefyd yn peri risgiau sylweddol i fodurwyr a cherddwyr hefyd. Ar ben hynny, bu cynnydd trallodus mewn iaith ac agweddau bygythiol tuag at y rhai sy'n gweithio'n ddiwyd i gynnal a gwella ein seilwaith ffyrdd.

Wrth i brosiectau cynnal a chadw blynyddol cychwyn ar draws y rhanbarth yn y Gwanwyn, mae'n hanfodol i bob defnyddiwr ffordd fod yn ofalus a pharchu'r rhai sy'n gweithio'n ddiflino i wella ein rhwydwaith ffyrdd. Mae'r gweithgareddau cynnal a chadw hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd ein ffyrdd, er budd pawb sy'n teithio arnynt.

"Rydyn ni'n poeni'n fawr am y cynnydd yn achosion fel hyn mewn ardaloedd gwaith ffordd ac am y cham-drin o bobl sy’n gweithio ar y rhwydwaith," meddai llefarydd ar ran Traffig Cymru. "Mae'r unigolion hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein ffyrdd yn ddiogel ac yn weithredol. Rhaid i'w diogelwch a'u lles fod yn flaenoriaeth i ni."

"Rydyn ni i gyd eisiau mynd adref i'n teuluoedd yn ddiogel.Os byddwch yn gweld ein Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru ar y rhwydwaith, mae'n hanfodol eich bod yn parchu eu dyletswyddau a'u gwaith. Maent yno i'ch helpu a'ch cynorthwyo chi a'r gwasanaethau brys i ddelio â digwyddiadau." - Swyddog Traffig

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Slow Down Move Over ar gael Slow Down Move Over | Join our Road Side Operative Safety Campaign .

Rydym yn annog pob gyrrwr i gadw at ganllawiau diogelwch ar y ffyrdd, bod yn amyneddgar, a dangos parch tuag at weithwyr ffyrdd a'u parthau gwaith dynodedig. Mae'n hanfodol bod gyrwyr yn lleihau eu cyflymder ac yn newid lonydd yn ddiogel wrth agosáu at weithwyr ar ochr y ffordd a cherbydau brys. Mae hyn yn helpu i sicrhau diogelwch pawb ac yn atal damweiniau.

Gyda'n gilydd, gallwn feithrin diwylliant o gyd-barch a chydweithrediad ar ein ffyrdd, gan sicrhau diogelwch a lles pawb sy'n eu defnyddio.