Dyddiad dechrau: 28/09/2025| Dyddiad gorffen: 25/01/2026
Bydd gwaith hanfodol i ymdrin â choed peryglus ger yr M4 rhwng C33 (Cyfnewidfa Gorllewin Caerdydd) a Phont Tywysog Cymru yn dechrau ar 28/09/2025 am 4 mis.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos rhwng 20:00 a 06:00 gan ddefnyddio trefn o gau lonydd a'r llain galed; fodd bynnag, bydd angen cau rhai ffyrdd ymuno ac ymadael yn gyfan gwbl er mwyn cael y parthau diogelwch angenrheidiol yn eu lle. Bydd gwyriadau (gydag arwyddbyst) yn eu lle pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr.
Ni fydd gwaith yn cael ei wneud dros gyfnod embargo'r Nadolig rhwng 19/12/2025 a 05/01/2026.
Bydd y dyddiadau fel a ganlyn:
Medi:
C32 Ffordd ymuno tua'r gorllewin (28/09/2025 - 29/09/2025)
Hydref:
C33 Ffordd ymadael tua'r gorllewin a System gylchu C33 (Cylchffordd Fewnol) (01/10/2025 - 02/10/2025)
C33 Ffordd ymuno tua'r dwyrain (05/10/2025 - 06/10/2025)
C27 Ffordd ymadael tua'r dwyrain (14/10/2025 - 15/10/2025)
C27 Ffordd ymuno tua'r dwyrain (15/10/2025 - 16/10/2025)
C26/C25a Ffordd ymuno tua'r dwyrain (23/10/2025 - 10/11/2025)
**Sylwch y gallai'r rhaglen waith newid.
Bydd gwyriadau (gydag arwyddbyst) yn eu lle pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr.