Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Cwestiynau Cyffredin A470 / A40 Cylchfan Tarell, Aberhonddu

Tudalen Cwestiynau Cyffredin A470 / A40 Cylchfan Tarell, Aberhonddu

Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos i darfu gyn lleied â phosib, a chau ffyrdd gyn lleied â phosib.

Byddant, bydd mynediad yn cael ei gadw i'r holl fusnesau ac eiddo yn ystod y gwaith. Efallai y bydd cyfnodau lle mae mynediad yn gyfyngedig, a bydd marsialiaid yn hebrwng cerddwyr drwy'r gwaith

Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir y bydd oedi i deithio a chynghorir pobl i gynllunio ymlaen llaw ac i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau.

Byddwn yn cynnal mynediad ar gyfer pob cerbyd danfon, yn dibynnu ar pa gam o'r gwaith maent arno, efallai y bydd angen marsialiaid i hebrwng cerbydau drwy'r gwaith. Bydd y prif gontractwr yn darparu rhagor o fanylion i fusnesau lleol fel y gellir gwneud trefniadau addas.

Mae'r rheolaeth traffig dros dro wedi'i ddatblygu i sicrhau bod y rhwydwaith yn dal i fod yn hygyrch i bob cerbyd gan gynnwys y gwasanaethau brys, ac os bydd rhai lonydd lleol wedi cau, byddwn yn gadael cerbydau brys drwodd.

Mae'r rheolaeth traffig dros dro wedi'i ddatblygu i sicrhau bod y rhwydwaith yn dal i fod ar gael ar gyfer pob cerbyd, gan gynnwys bysiau yn ystod y dydd. Mae gwasanaethau bysiau lleol wedi cael gwybod y bydd oedi wrth deithio yn ystod y gwaith hwn.

Nid oes unrhyw iawndal statudol i bobl neu fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan lonydd yn cau / rheolaeth traffig dros dro. Mae pob ymdrech wedi'i wneud i leihau'r tarfu ar deithiau.