Bydd y gwaith hanfodol hwn ar bum rhan o Bont Margam yn cael ei gyflawni mewn camau dros gyfnod o 6 mis ac mae'n hanfodol ar gyfer cynnal diogelwch ac atal dirywiad.
Mae angen adnewyddu pum strwythur pont ar yr M4, rhwng Cyffyrdd 37 a 38. Bydd y gwaith yn cynnwys:
- gwaith i wneud yr arwyneb yn wrth-ddŵr,
- atgyweiriadau concrid,
- cymalau ehangu newydd,
- clirio draeniau ac arwynebu.
Mae'n hanfodol gwneud gwaith i wneud yr arwyneb yn wrth-ddŵr (ynghyd â gwaith adnewyddu concrid cysylltiedig), i warchod y strwythur gwaelodol, cynnal oes y strwythur ac ymestyn oes y briffordd.
Mae’r gwaith hwn yn hanfodol i gynnal diogelwch ac atal dirywiad. Mae gwaith adnewyddu sydd wedi'i gynllunio yn helpu i atal yr angen am waith cynnal a chadw ymatebol sydd heb ei gynllunio.
Bydd y gwaith yn cychwyn ym mis Mehefin ac mae disgwyl iddo barhau hyd ddiwedd mis Tachwedd 2025.
Mae'r rhaglen yn ddibynnol ar y tywydd ac fe allai gael ei addasu, yn seiliedig ar amodau'r safle.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith, yn enwedig y gwaith trwsio concrid a gwrth-ddŵr, yn ddibynnol ar y tywydd. Mae'r gwaith yn gofyn am dywydd sych a chynhesach er mwyn iddo gael ei wneud yn effeithiol ac effeithlon.
Mae angen cau'r ffyrdd dros nos am gyfnodau byr i'r ddau gyfeiriad, fel bo'r angen, er mwyn sefydlu, newid a chael gwared ar fesurau rheoli traffig.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn camau, a bydd y traffig yn parhau i fedru teithio ar ddwy lôn i'r ddau gyfeiriad.
Bydd y traffig yn rhedeg naill ai:
- Ar hyd system gwrthlif, neu
- Ar hyd trefn sy'n defnyddio'r llain galed a lôn 1.
Mae defnyddio system gwrthlif yn golygu bod modd cael mynediad di-rwystr at un ochr o bob pont, sy'n golygu bod modd gwneud y gwaith mor effeithlon â phosib.
Mae'r cyfyngiadau cyflymder dros dro mewn grym i sicrhau diogelwch gyrwyr a gweithwyr yn ardal y gwaith.
Mae cyflymder is yn helpu i ddiogelu defnyddwyr y ffordd sy'n teithio dros arwynebau ffordd sydd wedi'u plaenio neu wedi'u hail-wynebu'n rhannol.
Hefyd, mae'n gadael i'r gwaith fwrw yn ei flaen yn ddiogel ac yn effeithlon o fewn trefn lle mae lonydd cul wedi'u sefydlu.
What is the limit?
Bydd y ffordd yn parhau i fod ar agor gyda dwy lôn yn rhedeg i'r ddau gyfeiriad am y mwyafrif o'r rhaglen waith. Bydd y lonydd yn cau dros nos yn unig, a bydd arwyddion yn cael eu harddangos i roi gwybod am hynny ymlaen llaw.
Bydd gwasanaeth adfer am ddim yn weithredol yn ystod cyfnod y gwaith.
Mae'n anochel y bydd rhywfaint o sŵn yn ystod y gwaith adeiladu, e.e. wrth blaenio ac ail-wynebu.
Gwneir pob ymdrech i leihau sŵn, a bydd tasgau swnllyd yn cael eu cwblhau cyn gynted â phosib.
Bydd y lefelau sŵn yn debyg i sŵn traffig arferol y draffordd, lle bo modd.
Bydd mesurau rheoli traffig yn eu lle 24/7 i warchod ardal y gwaith a'i chadw'n ddiogel.
Dim ond yn ystod y dydd y bydd y contractwr yn gweithio, er mwyn sicrhau gwell gwelededd, amodau mwy diogel, a gwaith o ansawdd uwch.
Nid yw'n ddiogel gwneud gweithgareddau penodol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â thrwsio concrid a gwaith gwrth-ddŵr ar strwythurau uchel, yn ystod y nos.
Yn ogystal â rhesymau diogelwch, mae'r gwaith yn gofyn am adael digon o amser i ddeunyddiau sychu cyn symud ymlaen i'r cam nesaf, felly bydd adegau yn ystod y rhaglen lle y bydd oedi yn y gwaith ffisegol, yn anochel.
Hefyd, mae cyfyngiadau sŵn yn ein hatal rhag gwneud rhai tasgau yn ystod y nos.