Dyddiad cychwyn: 19/11/25 | Dyddiad gorffen: 20/11/25
Mae angen i National Highways gyflawni gwaith atgyweirio ar yr M4 tua'r dwyrain ar Bont Tywysog Cymru.
Mae National Highways wedi hysbysu y bydd M4 C23 a C22 Pont Tywysog Cymru yn cau tua’r dwyrain er mwyn cyflawni gwaith atgyweirio rhwng 22:00 19/11/25 a 06:00 20/11/25.
Bydd gwahanol lwybrau gwyro yn weithredol yn ôl dosbarth y cerbyd.
Bydd Pont Hafren M48 ar agor tua’r dwyrain i geir a HGVs yn ystod yr un cyfnod yn unig drwy reolaeth traffig.
Mae cyfyngiad pwysau ar M48 Pont Hafren i gerbydau sy’n pwyso mwy na 7.5 tunnell ac yn teithio tua'r gorllewin., bydd pob cerbyd o dan y cyfyngiad hwn yn gallu parhau ar yr M48.
Bydd dyddiadau'r rhaglen ddiweddaraf yn cael eu cyhoeddi ar wefan National Highways ar y ddolen hon.
Ceir a cherbydau ysgafn: Defnyddiwch M48 Pont Hafren.
Cerbydau Nwyddau Trwm dros 7.5 tunnell: Mae cyfyngiad pwysau ar yr M48 dal yn berthnasol, dilnwch y gwyriad canlynol:
- Gadael Cyffordd 24 M4
- Parhau ar yr A449, yna ymlaen ar A40, ymlaen M50
- Ymuno â'r M5 yng nghyffordd 8
- Parhewch ar yr M5 cyffordd 15
- Ailymunwch â'r M4 yn Almondsbury
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol @TraffigCymruD/@TrafficWalesS
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen gwefan benodol National Highways: nationalhighways.co.uk/M4PoWBridge, cysylltwch â'r Ganolfan cyswllt ar 0300 123 5000 (ar gael 24/7) neu anfonwch e-bost at: [email protected]