Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

M48 Pont Hafren Cyfyngiad pwysau

Dyddiad cychwyn: 27/05/25  | Dyddiad gorffen: 12-18 mis

m48 severn bridge at night time

Bydd National Highways yn cyflwyno cyfyngiad pwysau 7.5t ar gyfer cerbydau nwyddau trwm (HGVau) ar yr M48 Pont Hafren  o 27 Mai 2025 am oddeutu 12 i 18 mis.

Mae'r strwythur hwn yn cael ei gynnal a chadw gan National Highways. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi ar ei gwefan. 

 

Bydd angen i bob cerbyd nwyddau trwm dros 7.5 tunnell ddefnyddio Pont Tywysog Cymru yr M4 i groesi Aber Hafren. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan National Highways.

Am ragor o wybodaeth, gallwch ymweld â gwefan bwrpasol National Highways: M48 Severn Bridge weight restriction - National Highways, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt ar 0300 123 5000 (ar agor 24/7) neu e-bostiwch: [email protected]