Dyddiad dechrau: 28/09/2025| Dyddiad gorffen: 25/01/2026
Bydd gwaith hanfodol i ymdrin â choed peryglus ger yr M4 rhwng C33 (Cyfnewidfa Gorllewin Caerdydd) a Phont Tywysog Cymru yn dechrau ar 28/09/2025 am 4 mis.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos rhwng 20:00 a 06:00 gan ddefnyddio trefn o gau lonydd a'r llain galed; fodd bynnag, bydd angen cau rhai ffyrdd ymuno ac ymadael yn gyfan gwbl er mwyn cael y parthau diogelwch angenrheidiol yn eu lle. Bydd gwyriadau (gydag arwyddbyst) yn eu lle pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr.
Ni fydd gwaith yn cael ei wneud dros gyfnod embargo'r Nadolig rhwng 19/12/2025 a 05/01/2026.
Bydd y dyddiadau fel a ganlyn:
Tua'r dwyrain
- Ffordd ymuno C26 & C25a - 11/11/2025 - 26/11/2025
- Ffordd ymadael C24 - 24/11/2025 - 26/11/2025
- Ffordd ymuno C24 - 26/11/2025 - 27/11/2025
- Ffordd ymadael C23a - 30/11/2025 - 01/12/2025
- Ffordd ymuno C23a - 01/12/2025 - 02/12/2025
Tua'r gorllewin
- Ffordd ymadael C23a- 04/12/2025 - 05/12/2025
- Ffordd ymuno C23a - 07/12/2025 - 08/12/2025
- Ffordd ymadael C24 - 11/12/2025 - 12/12/2025
- Ffordd ymuno C24 - 14/12/2025 - 15/12/2025
- Ffordd ymadael C25 - 13/01/2026 - 15/01/2026
- A4042 ac Ffordd ymadael C25a - 15/01/2026 - 16/01/2026
- Ffordd ymuno C26 - 19/01/1026 - 20/01/2026
- Ffordd ymadael C27 - 25/01/2026 - 27/01/2026
Bydd gwyriadau (gydag arwyddbyst) yn eu lle pan fo lonydd yn cael eu cau'n llwyr.