Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Hanes Twnnel Conwy

Adeiladu mewn cytgord â natur- sut creodd twnnel ffordd  warchodfa adar

Cafodd gwarchodfa natur heddiw ei chreu o ddeunydd a gloddiwyd wrth adeiladu twnnel ffordd yr A55. Wedi'r morlynnoedd setlo a sychu, symudwyd y ddaear i greu'r amgylchedd gwlyptir delfrydol ar gyfer adar sy'n nythu.

Wedi’i adeiladu ym 1991, y twnnel a gludai brif ffordd yr A55 o dan Afon Conwy oedd y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n dal i fod y twnnel ffordd hiraf yng Nghymru. Creodd y pridd a symudwyd pan gafodd ei adeiladu yr amgylchedd gwlypdir delfrydol ar gyfer adar sy'n nythu.

.


Camp o beirianneg sifil

Conwy Tunnel Casting Basin
Basnau Castio Twnnel Conwy

Costiodd y twnnel £102m a chymerodd 5 mlynedd a 1000 o weithwyr i'w adeiladu, ar y pryd hwn oedd y prosiect adeiladu mwyaf i ymwneud â ffyrdd yn y DU. Mae'r twnnel yn cynnwys tair rhan, darnau wedi'u torri a'u gorchuddio i'r dwyrain a'r gorllewin – cafodd y rhain eu hadeiladu yn y fan a'r lle ac yna eu claddu – ac adran danddwr ganolog o dan yr aber. Mae'r rhan danddwr yn cynnwys chwe thiwb concrit wedi'u hatgyfnerthu â dur, ac fe’u hadeiladwyd ym Marina Conwy heddiw. Ar ôl eu cwblhau cawsant eu harnofio allan a'u suddo mewn ffos a gloddiwyd ymlaen llaw cyn eu gorchuddio. Mae pob tiwb yn pwyso 30,000 tunnell. Mae'r twnnel yn 1,089 metr o hyd ac mae'n cynnwys 300,000 tunnell o goncrit a 10,500 tunnell o atgyfnerthiad dur yn ei gyfanrwydd.

Roedd yn rhaid arnofio’r rhannau tanddwr allan o’r basn castio i’w safleoedd terfynol gyda chywirdeb anhygoel. Cymerodd hyn ymdrech gydweithredol enfawr, gan gynnwys tîm o naw deg o ddeifwyr yn gweithio shifftiau 24 awr gan wneud oddeutu 7,000 o ddeifiau.


Llwybr i Ddyfodol Disglair

Conwy Tunnel Portal entrance Westbound
Sut mae'r twnnel a'r A55 yn edrych heddiw o'r fynedfa gorllewinol

Canmolwyd croesfan twnnel Conwy fel “cyswllt newydd mewn cadwyn euraidd” o brosiectau ffyrdd a ddyluniwyd i sicrhau ffyniant Gogledd Cymru. Roedd y prosiectau hyn yn gwella ansawdd bywyd cymunedau a welir ar hyd yr A55 o Fangor i Gaer.

Yn ogystal â darparu hafan i adar gwyllt, fe helpodd hefyd i ddod â phroblem tagfeydd cynyddol ym Mae Colwyn a Chonwy i ben. Fe’i agorwyd gan y Frenhines ar Hydref 25ain, 1991.


Twnnel Conwy Heddiw

Conwy tunnel eastbound entrance
Mynedfa dwyreiniol twnnel Conwy

Mae Croesfan Conwy yn parhau i wella bywydau trigolion ac ymwelwyr drwy gefnogi miliynau o deithiau bob blwyddyn. Mae'n chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod y warchodfa natur ar gael i bawb.

Mae technoleg y twnnel heddiw yn dal i fod mor flaengar ag yr oedd pan gafodd ei hadeiladu'n wreiddiol. Mae'n cynnwys 36 o ffaniau enfawr ym mhob twll, camerâu teledu cylch cyfyng, ffonau brys, systemau canfod digwyddiadau a system cyhoeddiadau a 1,850 o lampau LED sy'n addasu'n awtomatig i amodau gwelededd. Cefnogir y rhain gan 4km o geblau a 3km o waith dur. Mae angen cynnal a chadw'r offer critigol diogelwch hwn yn rheolaidd i gadw'r twnnel mewn cyflwr delfrydol.


Adeiladu Twnnel Conwy mewn lluniau

artistic impression of the west portal
Dredger used to reshape land for Conwy Tunnel's construction
East entrance for conwy tunnel constructed with cut and cover method
East entrance for conwy tunnel constructed with cut and cover method, taken in June 1989
East entrance for conwy tunnel constructed with cut and cover method
artistic impression of the eastern approach
Immersed Tunnel Internal View Artistic Impression

 

Darganfyddwch mwy