Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A4042 Penperlleni - Adeiladu Croesfan i Gerddwyr a Safle Bws Newydd

Dyddiad cychwyn: 26/01/2026| Dyddiad gorffen: 28/03/2026 

Penperlleni

Gwaith i adeiladu Croesfan i Gerddwyr a Safle Bws Newydd ar yr A4042 ym Mhenperlleni. Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 26/01/2026 - 27/03/2026

Bydd y gwaith yn digwydd dros gyfnod o 9 wythnos, yn bennaf yn ystod y dydd o fewn oriau traffig tawel rhwng 09:30-15:30, a bydd y lonydd ar gau gyda rheolaeth arwyddion traffig dros dro.

Yn ystod wythnos olaf y gwaith ar ddiwedd mis Mawrth, bydd y lonydd yn cael eu cau dros nos er mwyn cwblhau'r gwaith cysylltiedig i ail-wynebu'r gerbydlon yng nghyffiniau'r groesfan newydd i gerddwyr. Mae'n rhaid cau'r lonydd i gael gwared ar draffig cyffredinol o ardal y gwaith er diogelwch y gweithlu a'r cyhoedd sy'n teithio. Bydd dyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn nes at yr amser.

Bydd y gwyriad yn cael ei gynnwys maes o law

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X a Facebook.