Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

A483 Heol Rhosmaen, Llandeilo. Amryw o Weithgareddau Gwaith

Diwrnod Cychwyn: 23/02/26 | Diwrnod Gorffen: 27/02/26

Gwaith i osod colofnau goleuo, adnewyddu marciau ffordd ac ailwynebu'r droedffordd.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros ddwy noson, rhwng 20:00 a 06:30, pan fydd llif traffig yn isel, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Ar gyfer cerbydau sy'n teithio tua'r gogledd - Ewch i'r gogledd o'r ardal sydd wedi cau ar yr A483 nes i chi gyrraedd Cylchfan Rhosmaen, cymerwch yr allanfa gyntaf i'r chwith ar yr A40 a dilynwch yr A40 am Gaerfyrddin am 22 cilomedr. Yna, wrth gylchfan Abergwilli cymerwch y troad cyntaf i'r chwith gan barhau ar hyd yr A40 dros un gylchfan nes i chi gyrraedd cylchfan Pensarn. Wrth gylchfan Pensarn, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith am yr A48 a pharhau ar hyd y ffordd hon tuag at yr M4. Ar ôl 24 cilomedr wrth gylchfan Pont Abraham, cymerwch yr A483 tua'r gogledd a dilynwch y ffordd hyd at Landeilo. Tua'r de - yn groes i'r uchod.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter  @TraffigCymruD