Diwrnod Cychwyn: 24/02/26 | Diwrnod Gorffen: 26/02/26
Bydd gwaith i gynnal atgyweiriadau hanfodol i'r ffordd gerbydau ar yr A55 C23 i C24 tua'r Dwyrain yn dechrau ar 24/02/2026 am 3 noson.
Cau'r ffordd dros nos tua'r dwyrain rhwng C23 Llanddulas a C24 Abergele ar gyfer atgyweiriadau hanfodol i wyneb y ffordd.
Gwaith yn ei le am 3 noson 24/02/2026 – 26/02/2026 rhwng 20:00 – 06:00 ar yr 22ain, bydd y gwyriad trwy'r A547 Llanddulas ac Abergele.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros 3 noson hefo'r ffordd ar gau, bydd llwybr gwyriad wedi'i arwyddo yn cael ei weithredu gyda thraffig yr A55 yn cael ei ddargyfeirio wrth C23, ar hyd yr A547 trwy Landdulas ac Abergele i ailymuno â'r A55 wrth C24.
Bydd lôn 2 dau ar y brif ffordd gerbydau tua'r gorllewin ar gau i gefnogi'r gwaith gyda chyfyngiad cyflymder o 40mya.
Mae'r gwaith yn cael ei wneud dros nos pan fydd llif traffig yn isel er mwyn lleihau'r aflonyddwch.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X @TraffigCymruG