Yn 2024, gweithiodd Asiantau Cefnffyrdd Cymru (ACGChC ac ACDC), mewn cydweithrediad â gwasanaeth Traffig Cymru, yn ddiflino i reoli traffyrdd a chefnffyrdd Cymru. Gyda'i gilydd, maent wedi delio â phopeth, o gerbydau yn torri i lawr, tywydd garw a malurion ar y ffordd, gan sicrhau diogelwch a lleihau oedi ar draws 938 milltir o gefnffyrdd a 110 milltir o draffyrdd.
Mae’r ddau Asiant Cefnffyrdd yn rheoli, cynnal a gwella'r rhwydwaith ffyrdd strategol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae eu gwaith, ochr yn ochr ag ymdrechion Traffig Cymru, yn sail i'r nod cyffredin o wneud teithiau'n fwy diogel, yn llyfnach ac yn fwy dibynadwy i bob defnyddiwr ffordd.
Mae staff gweithredol y canolfannau rheoli traffig wedi ymdrin â 33,485 o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys:
Gogledd a Chanolbarth Cymru:
- 666 o ddigwyddiadau yn ymwneud â malurion.
- 182 o ddigwyddiadau yn gysylltiedig ag anifeiliaid.
- 3,960 o gerbydau wedi torri i lawr.
De Cymru:
- 909 darn o falurion wedi’u casglu.
- 131 o ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid.
- 8,953 o gerbydau wedi torri i lawr.
Roedd yr M4 a'r A55 yn parhau i fod y ffyrdd prysuraf yng Nghymru. Ar 26 Gorffennaf, cafodd dros 1.2 miliwn o deithiau eu cofnodi ar yr M4, gyda Chasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Llangyfelach yn cofnodi’r cyfanswm uchaf o draffig. Yn yr un modd, 30 Awst oedd y diwrnod prysuraf i'r A55 gyda dros 900,000 o deithiau yn cael eu gweld ar y ffordd hon. Cofnodwyd y nifer uchaf o gerbydau yn Llaneurgain, Treffynnon, Llanelwy a Chonwy y diwrnod hwnnw.
Mynychodd Swyddogion Traffig tua 13,679 o ddigwyddiadau ledled Cymru, gyda 92% yn ymwneud â cherbydau oedd wedi torri i lawr. Mae hyn yn pwysleisio’r pwysigrwydd o wirio eich cerbyd yn rheolaidd. Ar gyfartaledd, ymatebodd swyddogion De Cymru i ddigwyddiadau o fewn 6 munud ac 16 eiliad, tra bo cyfartaledd eu cydweithwyr yng Ngogledd Cymru yn 10 munud. Dros y pedwar mis diwethaf, symudodd swyddogion yng Ngogledd Cymru 6.4 cerbyd y dydd i gadw ffyrdd yn glir.
Yn ystod Storm Darragh, chynyddodd nifer y galwadau i linell gymorth Traffig Cymru o 200% a daeth 126% yn fwy o e-byst na’r arfer, oedd yn profi gwytnwch y timau. Er gwaetha’r heriau, gweithiodd y staff ddydd a nos i ddarparu diweddariadau a chymorth mewn modd amserol. Dywedodd Llinos Evans, y Rheolwr Cyfathrebu:
"Amlygodd Storm Darragh pa mor ddifrifol gall tywydd garw effei
thio ar deithio ac ar ffyrdd, gan greu heriau annisgwyl i yrwyr ac aelodau staff. Mae pob diwrnod yn wahanol, ond mae ein nod bob amser yr un fath, sef sicrhau bod pobl yn gallu teithio'n ddiogel a gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosib."
Mae Traffig Cymru yn annog pob defnyddiwr ffordd i flaenoriaethu diogelwch trwy gynnal gwiriadau cerbydau rheolaidd, cynllunio teithiau a chael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Diolch o galon i'n staff, partneriaid a defnyddwyr ffyrdd am helpu i wneud 2024 yn llwyddiant. Gyda'n gilydd, edrychwn ymlaen at gadw Cymru yn symud yn 2025.