Dyddiad Dechrau: 09/06/25 Dyddiad Gorffen: 16/12/25
Bydd gwaith i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol pontydd i 5 strwythur ar yr M4 rhwng cyffyrdd 37 a 38 – yn dechrau ar 09/06/2025
Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros raglen 6 mis mewn pedwar prif gam, a bydd y gwaith yn parhau i gyfnodau 2 a 3 fel yr amlinellir isod:
Camau 2 a 3 - Gwaith Gwrthlif
29 Gorffennaf – 12 Rhagfyr
- Cam 2 a 3 - Gwaith adnewyddu'r pontydd gyda llif traffig yn lleihau o dair lôn i ddwy lôn ym mhob cyfeiriad.
- Bydd terfyn cyflymder 50mya ar waith yn ystod yr amser hwn er diogelwch.
30 Tachwedd (20:00) – 1 Rhagfyr (06:00)
Cau'r ffordd dros nos am 1 noson i'r dday gyfeiriad i newid y cyfnodau gwrthlif
- Tua'r gorllewin rhwng C37 Pîl at C39 Groes
- Tua'r dwyrain rhwng C38 Margam at C37 Pîl
Cam 4 – Gwaith i'r Llain ganol
13 Rhagfyr (06:00) – 16 Rhagfyr
- Cam 4 gwaith i'r llain ganol yn agos i'r man lle mae'r gwrthlif yn croesi
- Bydd terfyn cyflymder 50mya ar waith yn ystod yr amser hwn er diogelwch.
Ar gyfer Camau 1 i 4, ni fydd angen llwybr dargyfeirio gyda'r holl draffig, gyda chyffyrdd 37 a 38 yn parhau i fod yn weithredol.
Yn ystod y cau gyfan ynysig i osod mesurau rheoli traffig, bydd llwybr dargyfeirio yn cael ei weithredu gan ddefnyddio'r A4229 a'r A48.
Tua'r gorllewin, bydd traffig yn cael ei gyfeirio oddi ar yr M4 wrth gyffordd 37 a thrwy'r A4229 a'r A48, gan ailymuno â'r M4 wrth gyffordd 39.