Oherwydd cyflwr dirywiol y gerbydlon ar yr A483 a'r A470 yn Llanfair-ym-Muallt, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dyluniad a rhaglen adnewyddu palmant ar gyfer y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd strategol.
Oherwydd cyflwr dirywiol y gerbydlon ar yr A483 a'r A470 yn Llanfair-ym-Muallt, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dyluniad a rhaglen adnewyddu palmant ar gyfer y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd strategol. Bydd y gwaith hwn yn helpu i wella gwytnwch y rhwydwaith ac yn lleihau gweithgareddau cynnal a chadw adweithiol yn y dyfodol.
Cyflawnwyd cam 1 y gwaith — o Gylchfan Llanelwedd i Bont Afon Gwy — yn llwyddiannus ym mis Chwefror 2025. Rydym nawr yn paratoi i wneud Cam 2, sydd wedi'i drefnu i ddigwydd rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Chwefror 2026.
Mae Cam 2 yn cynnwys gwaith ail-wynebu sy'n ymestyn o Gyffordd Stryd y Castell/Heol y Castell yn y dwyrain, ar hyd coridor yr A470/A483 tua'r gorllewin (Broad Street, Stryd Fawr, Stryd y Gorllewin a Ffordd y Garth), gan orffen wrth y gylchfan fach yn y gorllewin.
Er mwyn gwneud y gorau o'r mesurau rheoli traffig dros dro (TTM) sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwn, rydym hefyd yn cynnwys nifer o gynlluniau gwella gyda'r nod o wella’r seilwaith i gerddwyr a’r draenio. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gosod draenio cyrbau cyfunol ar hyd Stryd y Castell i liniaru problemau draenio.
- Adnewyddu arwyneb y droedffordd ar hyd Stryd y Castell ac adleoli croesfan isel heb ei rheoli.
- Lledu'r droedffordd ar hyd y Stryd Fawr, gan wella hygyrchedd i gerddwyr a’i gwneud hi’n brafiach iddynt..
- Gosod draenio cyrbau cyfunol ar hyd y Stryd Fawr i liniaru problemau draenio.
- Gwella nifer o groesfannau isel presennol ar hyd y Stryd Fawr a Stryd y Gorllewin.
Mae dadansoddiad manwl o'r trefniadau a'r dyddiadau rheoli traffig dros dro arfaethedig yn cael eu darparu ar dudalen A483 Llanfair-ym-Muallt - Cam 2 gwaith ail-wynebu fel bydd y gwaith yn mynd rhagddo.
Canllaw yn unig yw'r holl ddyddiadau ac amseroedd a gallant newid, oherwydd oedi annisgwyl fel tywydd gwael.
Er mwyn lleihau'r tarfu ar y gymuned leol a busnesau, rydym wedi cymryd y camau isod:
- Amseriad y Gwaith: Mae'r gwaith wedi'i drefnu yn ystod cyfnod y gaeaf er mwyn osgoi adeg brysuraf y flwyddyn.
- Y Ffair Aeaf: Ni fydd unrhyw waith a rheoli traffig yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn.
- Gwaharddiad Cyfnod y Nadolig: Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud yn ystod cyfnod y Nadolig i leihau'r effaith ar fusnesau lleol.
- Rheolaeth Traffig Dros Dro: Lle bo'n bosibl, bydd gwaith yn cael ei wneud gan ddefnyddio signalau traffig dros dro neu drefniadau gwrth-lif i gynnal mynediad o amgylch y dref.
- Cau Stryd y Castell: Bydd unrhyw gyfnod cau ar Stryd y Castell yn cael ei gyfyngu i'rnos yn unig.
- Gweithio ar y Penwythnos: Bydd gwaith ar y penwythnos yn ystod y dydd a'r nos yn digwydd lle bo hynny'n bosibl i leihau tarfu cyffredinol.
- Cyflawni ar y Cyd Mae nifer o gynlluniau wedi'u huno i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd rheoli traffig dros dro a lleihau tarfu dro ar ôl tro.
Gallant, bydd mynediad ar gael i'r holl fusnesau ac eiddo yn ystod y gwaith. Efallai y bydd cyfnodau lle mae mynediad yn gyfyngedig, a bydd marsialiaid yn hebrwng cerddwyr drwy'r gwaith.
Yn ystod y cyfnod hwn disgwylir y bydd oedi wrth deithio a chynghorir pobl i gynllunio ymlaen llaw ac i ganiatáu amser ychwanegol i deithio.
Bydd mynediad ar gael ar gyfer pob cerbyd sy’n danfon nwyddau manwerthu, yn dibynnu ar gam y gwaith, efallai y bydd angen marsialiaid i hebrwng cerbydau drwy'r gwaith a darparu lleoliadau addas i gerbydau gael dadlwytho. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu gan y prif gontractwr i fusnesau lleol, fel y gellir gwneud trefniadau addas.
Mae'r rheolaeth traffig dros dro wedi'i datblygu i sicrhau bod y rhan fwyaf o Lanfair-ym-Muallt yn dal i fod yn hygyrch i bob cerbyd gan gynnwys y gwasanaethau brys; bydd lle i gerbydau brys pan fydd lonydd lleol yn cau.
Mae'r rheolaeth traffig dros dro wedi'i datblygu i sicrhau bod Llanfair-ym-Muallt yn dal i fod yn hygyrch i bob cerbyd, gan gynnwys bysiau.
Rydym wedi cysylltu â Chyngor Sir Powys ynglŷn â'r gwaith, a fydd yn rhoi gwybod i'r ysgolion a'r gwasanaeth bysiau lleol y bydd oedi wrth deithio yn ystod y gwaith hwn.
Nid oes unrhyw iawndal statudol i bobl neu fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan lonydd yn cau / rheolaeth traffig dros dro. Mae pob ymdrech wedi'i wneud i leihau'r tarfu ar deithiau.
Fodd bynnag, mae cymorth uniongyrchol gan Fusnes Cymru ar gael i fusnesau sy'n wynebu ansicrwydd oherwydd cau ffyrdd/tarfu ar yr A483/A470 sydd wedi'i theilwra yn unol ag anghenion cleientiaid.
Mae Busnes Cymru yn darparu un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth busnes gan y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, a gellir cael mynediad digidol iddo drwy http://businesswales.gov.wales a sianeli cyfryngau cymdeithasol a llinell gymorth 0300 060 3000.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfuniad o gymorth busnes ar-lein, dros y ffôn ac 1 i 1 ac mae'n darparu mynediad at ystod o gyngor busnes cyffredinol, gwybodaeth a chyfeiriadau yn ogystal ag elfennau arbenigol o gyngor megis gwaith teg; effeithlonrwydd adnoddau; masnach ryngwladol; sgiliau; caffael; a mentora.